Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 28 Medi
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3993
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 i 10. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Atebwyd cwestiynau 7 ac 8 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Dechreuodd yr eitem am 14.52
NDM6088
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i fynd i'r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio'r dulliau mwyaf effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a’r cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn ardal.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.49
NDM6103 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gadw’r fwrsariaeth nyrsio fel rhan o raglen ehangach i gynorthwyo rhagor o bobl o gefndiroedd incwm isel i gael gyrfaoedd yn GIG Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6104 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.
(b) sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â'r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a'r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac
(c) cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i'r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6102 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Dechreuodd yr eitem am 17.40
NDM6105 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Heriau i'r sector gofal yng Nghymru yn y dyfodol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Hydref 2016